symud rhifedd

 English

Dyscalcwlia Cymru   

Creu Unigolion Sydd Yn Deall Rhif

dyscalculia wales

 

Problemau gyda Sgiliau Rhifyddol?

problems with numeracyRoedd amser pan oedd unigolion a oedd yn cael anawsterau gyda mathemateg yn cael eu hystyried yn dwp.

Nid oedd ots pa sgiliau eraill oedd gan y bobl hyn Roedd pobl a oedd yn gallu meistroli mathemateg yn barod iawn i’w labelu gan nad oeddent yn deall y broblem.

Yn ffodus, heddiw, mae dyscalcwlia yn cael ei gydnabod fel cyflwr niwrolegol sydd yn achosi dallineb rhif, yr un ffordd ag y mae dyslecsia yn achosi problemau gyda llythrennau a geiriau.

Yn ôl Brian Butterworth, Athro Niwroseicoleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain, mae dyscalcwila yn effeithio ar dros 6% o’r boblogaeth.

Erbyn hyn, mae dyscalcwlia yn gyflwr cydnabyddedig ac mae dulliau dysgu, cyngor a thechnegau ar gael i helpu pobl sydd â dyscalcwlia i ymdrin â mathemateg a rhif. O ganlyniad i hyn, mae eu hunanhyder yn cynyddu hefyd.

Beth ydy Dyscalcwlia?

 

 

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Dyscalcwlia Cymru cofrestrwch yma