Sue Peace - Dyscalcwlia
Cymru

Sue Peace
Mae Sue yn gweithio yn broffesiynol fel
athrawes ac ymgynghorydd Brain Gym® yn helpu myfyrwyr ac
oedolion i gyrraedd eu potensial dysgu.
Mae hi’n hyfforddwr Brain Gym trwyddedig. Mae gan Sue
cymhwyster SpLDPAC (Tystysgrif Anawsterau Dysgu Penodol ac
Asesu Ymarferol gyda PATOSS (Sefydliad Athrawon Addysg Arbennig
Broffesiynol ).
Hefyd mae gan Sue gymhwyster AMBDA gan Sefydliad Dyslecsia
Prydeinig. Mae Sue yn aelod proffesiynol o’r Sefydliad
Cinesioleg Prydeinig a’r Sefydliad Cinesioleg Addysgol y
Deyrnas Unedig. Dyscalcwlia, dyspracsia a dyslecsia yw ei phrif
ddiddordebau.
Maes ymchwil Sue yw dulliau “Symud a Dysgu” trwy system
Brain Gym®. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu dulliau i helpu
myfyrwyr dyscalcwlig, dyspracsig a dyslecsig. Astudiodd radd
uwch yn y maes hwn ym Mhrifysgol Bangor a’i chwblhau yn
2006.
Ewch i weld traethawd Sue
Mae Sue yn athrawes brofiadol sydd wedi dysgu mathemateg yn
Awstralia ac yng Nghymru ym mhob cyfnod allweddol yn cynnwys
TGAU a Lefel A.
Mae hi’n rhoi hyfforddiant mewn Cinesioleg Addysgol(Brain
Gym® ) i athrawon, cynorthyddion y dosbarth, gweithwyr
proffesiynol eraill a rhieni ac yn gweithio fel ymgynghorydd
preifat. Hi yw cynllunydd y rhaglen Symud Rhifedd ar gyfer rhai
sydd ag anawsterau penodol Mathemategol. Cyhoeddwyd erthygl “An
Educational Kinesiology Approach to Dyscalculia” gan Sue ym
mwletin PATOSS, Mehefin 2007.
Brain Gym® Mae Brain Gym yn mynd i’r afael â nodweddion ag
elfennau corfforol sy’n dylanwadau ar y broses o ddysgu - y
gweledol, y clywedol, sgiliau echddygol manwl ac osgo. Mae’r
rhain yn sgiliau y mae’r rhan fwyaf o addysgwyr yn eu
hanwybyddu’n llwyr.” Mae honiadau ynglŷn â manteision Brain Gym
yn seiliedig ar gynnydd a welwyd mewn nifer fawr o blant. I
weld ymchwil diweddaraf Brain Gym® ewch i www.braingym.org.uk
|