symud rhifedd

 English

Dyscalcwlia Cymru   

Creu Unigolion Sydd Yn Deall Rhif

dyscalculia wales

 

Beth ydy Dyscalcwlia?

 

what is dyscalculiaMae rhifau yn broblem i berson sy’n dioddef o ddyscalcwlia.

Er enghraifft, nid yw rhywun sy’n dioddef o’r cyflwr yn deall bod 3 cadair yr un nifer â 3 bwrdd neu 3 car.

Ni fydd y disgybl yn adnabod “maint y rhif” 3 sydd yr un nifer â grŵp o 3 o bethau eraill.

Mae problemau eraill sy’n wynebu'r rhai sydd â dyscalcwlia er enghraifft yn dweud faint o’r gloch yw hi, cyfrif arian a phriodoli gwerth iddo. O ganlyniad mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd rheoli amser a chyllid.

Effaith arall dyscalcwlia yw’r anallu i ddweud y gwahaniaeth rhwng chwith a de.

Gall pob agwedd ar fywyd fod yn anodd i’r rhai sy’n cael trafferthion.

Maent yn wynebu problemau ymarferol o ddydd i ddydd, yn ogystal â diffyg hunanhyder o ganlyniad i gamdybiaeth eraill.

Mae unigolion sydd â dyscalcwlia yn gallu datblygu pob math o dactegau osgoi fel eu bod yn gallu byw eu bywydau i raddau helaeth iawn heb rifau. Ond wrth gwrs nid yw hyn yn ymarferol fel ateb tymor hir.

So, Pwy ydym ni?

 

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Dyscalcwlia Cymru cofrestrwch yma