symud rhifedd

 English

Dyscalcwlia Cymru   

Creu Unigolion Sydd Yn Deall Rhif

dyscalculia wales

 

Datblygu Sgiliau Rhifedd


Mae rhai unigolion yn cael trafferth deal y cysyniad o nifer.

Ni fyddent yn gallu deall cysyniad bod gan wahanol grwpiau rif sy’n cynrychioli nifer o wrthrychau yn y grŵp. Er enghraifft mae 3 llyfr yr un nifer grŵp â 3 cadair.

Nid ydynt yn gallu deall bod grŵp yn gallu cynrychioli rhywbeth anweledig fel synau neu ddymuniadau. Er enghraifft, 3 syniad, 3 dymuniad.

Mae’r rhaglen Symud Rhifedd y n seiliedig ar bwysigrwydd symud ac ymwybyddiaeth o ddatblygiad gwybyddol penodol. Mae’r rhaglen yn cynnig technegau ar sut i ddelio â’r canlynol :

Dealltwriaeth o rif fel nifer

Prosesau rhifyddol : adio, tynnu, lluosi, rhannu

Ystyr gwerth lle/ffracsiynau/degolion

Gosod symiau rhifyddol ar bapur

Sgiliau dilyniannu a sgiliau trefnu

Deall y dull

Mae’r dull hwn yn helpu unigolion discalcwlig i ddatblygu eu hunanhyder a strategaethau ymdopi sy’n eu galluogi i ddelio â mathemateg o ddydd i ddydd.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Dyscalcwlia Cymru cofrestrwch yma