symud rhifedd

 English

Dyscalcwlia Cymru   

Creu Unigolion Sydd Yn Deall Rhif

dyscalculia wales

 

So, Pwy ydym ni?

 

Mae Sue yn gweithio yn broffesiynol fel athrawes ac ymgynghorydd Brain Gym® yn helpu myfyrwyr ac oedolion i gyrraedd eu potensial dysgu.

sue peace and brain gym walesMae hi’n hyfforddwr Brain Gym trwyddedig. Mae gan Sue cymhwyster SpLDPAC (Tystysgrif Anawsterau Dysgu Penodol ac Asesu Ymarferol gyda PATOSS (Sefydliad Athrawon Addysg Arbennig Broffesiynol ). Hefyd mae gan Sue gymhwyster AMBDA gan Sefydliad Dyslecsia Prydeinig.

Mae Sue yn aelod proffesiynol o’r Sefydliad Cinesioleg Prydeinig a’r Sefydliad Cinesioleg Addysgol y Deyrnas Unedig.

Dyscalcwlia, dyspracsia a dyslecsia yw ei phrif ddiddordebau. Maes ymchwil Sue yw dulliau “Symud a Dysgu” trwy system Brain Gym®. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu dulliau i helpu myfyrwyr dyscalcwlig, dyspracsig a dyslecsig. Astudiodd radd uwch yn y maes hwn ym Mhrifysgol Bangor a’i chwblhau yn 2006.

Ewch i weld traethawd Sue  

Mae Sue yn athrawes brofiadol sydd wedi dysgu mathemateg yn Awstralia ac yng Nghymru ym mhob cyfnod allweddol yn cynnwys TGAU a Lefel A. Mae hi’n rhoi hyfforddiant mewn Cinesioleg Addysgol(Brain Gym® ) i athrawon, cynorthyddion y dosbarth, gweithwyr proffesiynol eraill a rhieni ac yn gweithio fel ymgynghorydd preifat.

Hi yw cynllunydd y rhaglen Symud Rhifedd ar gyfer rhai sydd ag anawsterau penodol Mathemategol.

Cyhoeddwyd erthygl “An Educational Kinesiology Approach to Dyscalculia” gan Sue ym mwletin PATOSS, Mehefin 2007.

Sut Gallwn i Helpu?

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Dyscalcwlia Cymru cofrestrwch yma