symud rhifedd

 English

Dyscalcwlia Cymru   

Creu Unigolion Sydd Yn Deall Rhif

dyscalculia wales

 

Sut gallwn i helpu?

 

help with numeracy skillsMae Dyscalcwlia Cymru yn cynnig nifer o gyrsiau amrywiol ar gyfer Ysgolion, Addysgwyr, Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr.

Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar ddysgu nifer o dechnegau Cinesioleg Addysgol a fydd yn rhoi cymorth i unigolion ddatblygu eu sgiliau rhifedd.

Mae’r rhaglen Rhifedd Symud, sydd wedi’i chynllunio gan Sue Peace, yn seiliedig ar bwysigrwydd symud wrth ddysgu. Mae rhaglen yn cynnig fframwaith sy’n ymdrin â’r cysyniadau canlynol:

  • Bod ag ofn mathemateg
  • Deall rhif
  • Creu dilyniant
  • Adnabod cyfarwyddiadau e.e. chwith a de
  • Sgiliau amgyffred

Mae’r dull hwn yn cynorthwyo unigolion dyscalcwlig i ddatblygu eu hunanhyder yn ogystal â strategaethau a fydd yn eu galluogi i ymdrin â mathemateg o ddydd i ddydd.

Cyrsiau-2008-2009

 

 

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Dyscalcwlia Cymru cofrestrwch yma